Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:09 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mick Antoniw (Cadeirydd) Llyr Huws Gruffydd Mark Isherwood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Ni chaniateir dirprwyon ar y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 22.4.
2. Ystyried adroddiad drafft ar Grwpiau Lobïo a Thrawsbleidiol
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
2.2 Yn amodol ar ddosbarthu fersiwn glân terfynol gyda mân newidiadau, cytunwyd ar yr adroddiad.
2.3 Nododd y Cadeirydd y disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Iau 2 Mai ac y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu maes o law, gyda’r bwriad o wahodd y Cynulliad i gefnogi ei argymhellion.
3. Ystyried adroddiad y Comisiynydd ar Sancsiynau
3.1 Cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad ar welliannau i weithdrefn Sancsiynau’r Cynulliad.
3.2 Nododd y Comisiynydd ei fod wedi ymgynghori â phob Aelod Cynulliad, y Llywydd ac Arweinwyr Pleidiau wrth baratoi ei adroddiad.
3.3 Trafododd Aelodau’r adroddiad ac yn benodol y materion yn ymwneud â ‘hawliau a breintiau’, unrhyw uchafswm cyfnod o waharddiad a phwysigrwydd gwneud yn glir na fyddai sancsiynau yn erbyn Aelod Cynulliad yn effeithio ar staff cymorth yr Aelod hwnnw.
3.4 Nododd y Cadeirydd y byddai adroddiad y Pwyllgor ar Sancsiynau, i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Busnes, yn cael ei ddrafftio er mwyn ei drafod yn y cyfarfod nesaf ar 7 Mai.